Isaiah 15

Cosbi Moab

1Neges am Moab. a

Do, cafodd ei dinistrio mewn noson,
cafodd Ar yn Moab ei difrodi'n llwyr;
Do, cafodd ei dinistrio mewn noson,
cafodd Cir yn Moab ei difrodi'n llwyr.
2Maen nhw wedi mynd i'r deml,
ac i'r allor leol yn Dibon i wylo.
Mae Moab yn udo
am beth ddigwyddodd i Nebo a Medeba.
Mae pob pen yn foel,
pob barf wedi ei siafio,
3ac maen nhw'n gwisgo sachliain yn y strydoedd.
Mae pawb yn udo
ac yn beichio crïo
ar bennau'r tai ac yn y sgwariau.
4Mae sgrechian yn Cheshbon ac Eleale,
ac mae'r sŵn i'w glywed mor bell â Iahats.
Felly, mae milwyr Moab yn gweiddi
a crynu trwyddynt mewn ofn.
5Mae fy nghalon yn gwaedu dros Moab –
a'r ffoaduriaid sy'n dianc i Soar
ac Eglath-shalisheia.
Maen nhw'n wylo wrth ddringo
ar lethr Lwchith
Mae gwaedd dinistr yn codi
ar y ffordd i Choronaïm.
6Mae dyfroedd Nimrim wedi sychu;
mae'r glaswellt wedi gwywo,
a phob tyfiant yn methu.
Mae pob planhigyn wedi diflannu.
7Felly, maen nhw'n cario eu cynilion a'u heiddo
dros Sychnant yr Helyg.
8Ydy, mae sŵn y sgrechian wedi lledu
drwy wlad Moab i gyd:
mae'r udo i'w glywed mor bell ag Eglaim,
hyd yn oed yn Beër-elim!
9Mae dyfroedd Dimon yn llawn gwaed.
Ond dw i'n mynd i wneud pethau'n waeth eto i Dimon:
Bydd llew yn ymosod ar weddill Moab,
a'r rhai sydd ar ôl yn y tir.
Copyright information for CYM